Rhoi nawr
Apêl gan Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia.
[golygu]Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.
Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig: mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i ystyried, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.
Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.
Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu £5, dim ond am un niwrnod y flwyddyn fydden ni'n gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.
Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o £5, £20, £50 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.
Diolch yn fawr,
Jimmy Wales
Sefydlydd Wicipedia
I'r dibenion hyn y byddwch yn cyfrannu
[golygu]Technoleg: Gweinyddion, band llydan, cynnal a chadw a datblygu. Wicipedia yw 5ed gwefan y byd o ran prysurdeb, ond mae'n dal i fynd ar y mymryn lleiaf o wariant o'i chymharu â'r gwefannau mawrion eraill
Pobl: Mae gan y gwefannau eraill, o'r 10 mwyaf prysur, filoedd o weithwyr. 700 sydd gennym ni, sy'n golygu bod eich cyfraniad yn cael ei fuddsoddi mewn sefydliad di-elw effeithiol iawn.
Almost done: Please, make it $Y monthly.