Rhoi nawr
Apêl gan Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia.
Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.
Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig: mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i ystyried, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.
Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.
Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu £5, dim ond am un niwrnod y flwyddyn fydden ni'n gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.
Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o £5, £20, £50 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.
Diolch yn fawr,
Jimmy Wales
Sefydlydd Wicipedia