Template:Appeal/default/cy: Difference between revisions
removing Google & Yahoo line |
m adding quote for responsive pages |
||
Line 1:
<div>
Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu
▲Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 450 miliwn o bobl gwahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.
Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.
Line 24 ⟶ 16:
'''Jimmy Wales'''<br/>
Sefydlydd Wicipedia
</div>
<div class="appeal-text-short" style="display: none;">
{{Quote
| Dychmygwch fyd lle bydd pawb yn gallu dod o hyd, yn rhad ac am ddim, i holl wybodaeth y ddynolryw.
| Jimmy Wales, Sefydlydd Wikipedia
}}
</div>
|
Revision as of 18:13, 5 March 2014
Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 500 miliwn o bobl gwahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.
Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.
Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig: mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i ystyried, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.
Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.
Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu £5, dim ond am un niwrnod y flwyddyn fydden ni'n gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.
Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o £5, £20, £50 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.
Diolch yn fawr,
Jimmy Wales
Sefydlydd Wicipedia