Template:Appeal/default/cy

From Donate
Jump to navigation Jump to search

Mae gan Gwgl a Yahoo filoedd o staff a gweinyddion. Mae'r rhyw 800 o weinyddion a 150 o staff sydd gennym ni yn ddigon.

Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 450 miliwn o bobl gwahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.

Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.

Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig: mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i ystyried, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.

Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.

Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu $5, dim ond am un niwrnod y flwyddyn fydden ni'n gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.

Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o $5, $20, $50 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.

Diolch yn fawr,

Jimmy Wales
Sefydlydd Wicipedia