Template:Appeal/default/cy

From Donate
Revision as of 23:04, 4 November 2011 by imported>Lloffiwr (add new paragraph)
(diff) ← Older revision | Latest revision (diff) | Newer revision → (diff)
Jump to navigation Jump to search

Efallai fod gan Google yn agos i filiwn o weinyddion. Mae gan Yahoo tua 13,000 o staff. Mae gennym ni 400 o weinyddion a 73 aelod o staff.

Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 422 miliwn o bobl gwahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.

Mae masnach yn ddigon derbyniol. 'Dyw hysbysebu ddim yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.

Rhywbeth arbennig yw Wicipedia. Mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i feddwl, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.

Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn i fod wedi creu cwmni a fyddai'n creu elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais wneud rhywbeth gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.

Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu $5, dim ond am un niwrnod y flwyddyn fydden ni'n gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, bydd digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.

Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o $5, €10, ¥1000 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.

Diolch,

Jimmy Wales
Sylfaenydd Wicipedia