Template:Appeal/Brandon/cy

From Donate
Jump to navigation Jump to search

Oddi wrth Brandon Harris, rhaglennydd Wicipedia

Dw i'n teimlo fel pe bawn i'n byw llinell agoriadol fy ysgrif goffa.

Ni chredaf y bydd unrhyw beth arall yn fy mywyd mor bwysig a'r hyn rwyn gwneud i Wicipedia ar y foment. Nid creu gwyddoniadur yn unig ydym ni, rydym yn ceisio rhyddhau pobl. Pan fo gennym fynediad i wybodaeth yn rhad ac am ddim, rydym yn well pobl. Sylweddolwn fod y byd yn fwy na ni, a chawn ein heintio gan oddefgarwch a dealltwriaeth.

Wicipedia yw'r pumed gwefan yr ymwelir fwyaf ag ef yn y byd. Rwy'n gweithio i'r sefydliad bychan di-elw sy'n ei gadw ar y we. Nid ydym yn arddangos hysbysebion oherwydd byddai gwneud hynny'n aberthu ein hannibyniaeth. Nid yw'r safle hon yn arf bropaganda, ac ni ddylai fod byth.

Cyfraniadau oddi wrth ein darllenwyr sy'n ein galluogi i wneud ein gwaith. A fyddech chi gystal ag amddiffyn Wicipedia trwy gyfrannu $5, €10, ¥1000 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio?

Rwyf i'n gweithio i Sefydliad Wikimedia am fod yr oll sydd ynnof yn dweud wrthyf mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwyf i wedi gweithio i gwmnïau technoleg enfawr, yn gwneud swydd i greu rhywbeth cachlyd a gynlluniwyd i ddwyn arian wrth rhyw blentyn sydd ddim hyd yn oed yn sylweddoli hynny. Arferwn ddychwelyd adref o'r gwaith yn dor-calonnus.

Efallai na wyddoch hyn, ond mae Sefydliad Wikimedia yn gweithredu gyda nifer fach iawn o staff. Mae gan y rhan fwyaf o'r gwefannau eraill sydd yn y deg uchaf ddegau o filoedd o staff a chyllidau enfawr. Ond llwyddant i gyflawni ffracsiwn fechan o'r hyn a wnawn ni gan ddefnyddio'r peth nesaf at ddim.

Pan gyfrannwch at Wicipedia, rydych yn cefnogi gwybodaeth yn rhad ac am ddim ledled y byd. Nid yn unig rydych yn gadael cymynrodd i'ch plant ac i blant eich plant; rydych hefyd yn dyrchafu'r bobl ledled y byd a fydd yn cael mynediad i'r trysor hwn. Rydych yn sicrhau y bydd pawb arall yn hefyd, rhyw ddydd.

Diolch,

Brandon Harris
Rhaglennydd, Sefydliad Wikimedia