Template:Appeal/Kaldari/cy

From Donate
Jump to navigation Jump to search

Oddi wrth Ryan Kaldari, rhaglennydd Wicipedia

Roedd y We arfer bod yn hynod o cŵl.

Arferai fod gymaint o amrywiaeth ar y we nôl yn "nyddiau da" y 90au fel ei fod yn teimlo mwy fel cymuned o bobl ddiddorol yn hytrach na - chi'n gwybod - fersiwn ogoneddus o'r teledu, sef yr hyn mae'n teimlo fel nawr.

Roeddwn i'n un o'r gwirfoddolwyr a greodd Wicipedia. Ac fe benderfynom ni amser maith yn ôl fod rhannu gwybodaeth ac addysgu pobl yn bwysicach na gwneud arian. Dyma pam y caiff Wicipedia ei weinyddu gan fudiad di-elw, a pham nad oes byth hysbysebion arno.

Mae angen arian i gadw'r gweinyddion ar waith ac i dalu nifer fychan o staff. Ond yn hytrach na chael hysbysebwyr a dylanwadau ariannol yn llywio'r hyn rydym yn gwneud, gofynnwn i'n darllenwyr ein cefnogi unwaith y flwyddyn a chefnogi cymuned o bobl sy'n cynrychioli rhywbeth gwahanol ar y We. Cyfrannwch $5, $10 neu beth bynnag y medrwch os gwelwch yn dda.

Ar ôl blynyddoedd o olygu Wicipedia, es i'n aelod o staff fel datblygwr meddalwedd. A gallaf eich sicrhau fod yr is-adeiladedd sy'n cefnogi Wicipedia mor elfennol ag y medra fod.

Efallai fod gan Google yn agos at filiwn o weinyddion. Mae gan Yahoo rhyw 13,000 o staff. Mae gennym ni 670 o weinyddion a 95 aelod o staff.

Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we a gwasanaetha 470 miliwn o bobl wahanol yn fisol - gyda biliynau o dudalennau'n cael eu darllen.

Y peth gorau am gyfrannu at Wicipedia yw pan ydych yn rhoi $10 i Wicipedia, caiff ei luosi drosodd a throsodd. Os yw'r $10 hynny yn mynd i dalu peth o gyflog un datblygwr meddalwedd, sydd yn datblygu teclyn sy'n galluogi 1,000 o wirfoddolwyr i wneud rhywbeth gwych ar Wicipedia, yna yn sydyn mae eich $10 wedi llwyddo i wneud llawer yn fwy nag a fyddai ar unrhyw wefan arall.

Bydd eich cyfraniad chi yn ein helpu i wella Wicipedia - ac i sicrhau fod y rhan hon o'r We o leiaf, yn aros yn cŵl.

Diolch,


Ryan Kaldari
Rhaglennydd Wicipedia