Template:Appeal/Projects/cy

From Donate
Jump to navigation Jump to search

Apêl gan Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia.

Efallai fod gan Google yn agos i filiwn o weinyddion. Mae gan Yahoo tua 13,000 o staff. Mae gennym ni 679 o weinyddion a 95 aelod o staff.

Wicipedia a'i chwaer-wefannau ydy'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac maent yn gwasanaethu 470 miliwn o bobl wahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.

Mae masnach yn ddigon derbyniol. Nid yw hysbysebu yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicifryngau.

Rhywbeth arbennig ydy Wikimedia. Mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i feddwl, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.

Pan sefydlais Sefydliad Wicifryngau, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n creu elw imi trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais wneud rhywbeth gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.

Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu £5, dim ond am un diwrnod y flwyddyn fyddem yn gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.

Eleni, a fyddech cystal ag ystyried gwneud cyfraniad o £5, £10, £20 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal prosiectau Wicifryngau.

Diolch,

Jimmy Wales
Sylfaenydd Wicifryngau