Template:Appeal/Susan/cy

From Donate
Jump to navigation Jump to search

Oddi wrth Susan Hewitt, awdur ar Wicipedia

Efallai fod gan Google tua miliwn o weinyddwyr. Mae gan Yahoo rhywbeth fel 13,000 o aelodau o staff. Dim ond 679 gweinyddwr a 95 aelod o staff sydd gan Wicipedia.

Wicipedia yw 5ed wefan mwyaf prysur y we ac mae'n gwasanaethu 470 miliwn o bobl bob mis – a hynny oll trwy gyfraniadau oddi wrth ei ddarllenwyr.

Os ydych yn defnyddio Wicipedia, fe sylweddolwch pa mor ryfeddol ydyw i dderbyn yr holl wybodaeth hon heb orfod talu amdani, a heb orfod darllen hysbysebion dibendraw, a heb bethau'n fflachio ar yr ochrau ac yn y blaen. Mae'n brofiad pur.

Rwy'n credu y dylai pobl sy'n elwa'n fawr ohono, ac sy'n medru ei fforddio, deimlo dyletswydd foesol i gyfrannu punt neu ddwy o leiaf pe byddent yn gwybod beth sydd ei angen.

Beth am gyfrannu punt neu ddwy heddiw? – neu 5 neu 20!

Yr hyn sy'n anhygoel am Wicipedia ydy bod creaduriaid od fel fi, sy'n dwli ar bethau rhyfedd fel gastropodiaid (malwod), yn medru dod ynghyd a rhannu ein hangerdd gyda'r byd. Dyna sy'n gwneud Wicipedia mor hudolus – mae yna olau tawel ymhob un ohonom sy'n deillio o'n hawydd i helpu i addysgu, i helpu i rannu gwybodaeth.

Helpwch yr ardd hon o wybodaeth i dyfu trwy wneud cyfraniad heddiw.

Diolch,

Susan Hewitt
Un o awduron Wicipedia